£200k pledged towards Pine Marten Recovery Project
The Pine Marten Recovery Project, established by The Vincent Wildlife Trust (VWT), has secured vital financial support, helping to ensure the long-term funding of this six-year project aimed at restoring the pine marten to England and Wales.
This autumn will see the first pine martens brought from Scotland, where they are thriving, to an area of mid Wales that still retains a tiny but struggling pine marten population. This is the culmination of almost two years of feasibility research, careful groundwork and community liaison. Over time it is hoped that a viable, thriving pine marten population will once again flourish in the woodlands of mid Wales.
The project has secured a total of £200,000 from four partners: Woodland Trust, People’s Trust for Endangered Species (PTES), a private company called POLECAT and including £100,000 over six years from Chester Zoo. This is a significant proportion of the £800,000 match funding needed to finance the project.
Natalie Buttriss, Chief Executive of the VWT, said ‘We are delighted to have these four new partners on board. Not only have they provided a welcome early financial boost to the project, but will also bring with them additional expertise and resources.’
Initially this much-needed funding will be used towards community engagement, the transporting and releasing of the animals to Wales and on-going research to monitor the animals’ movements.
The funding partners will bring a wealth of expertise to the project including animal welfare and behaviour research from Chester Zoo, woodland management and landscape knowledge from the Woodland Trust, mammal information from PTES and risk intelligence from POLECAT.
The Trust will be fundraising for the remaining £600k needed for the project over the coming year, and has welcomed the early financial commitment from these four funding partners which it is hoped will stimulate further support.
Addewid o £200k yn cael ei roi i Brosiect Achub Bele’r Coed
Mae Prosiect Achub Bele’r Coed, a sefydlwyd gan y Vincent Wildlife Trust (VWT), wedi derbyn cefnogaeth ariannol allweddol a fydd yn helpu sicrhau cyllid hirdymor ar gyfer rhaglen chwe mlynedd i ddod â bele’r coed yn ôl i Gymru a Lloegr.
Yn yr hydref bydd belaod coed yn cael eu cludo o’r Alban, lle mae eu niferoedd yn iach iawn, i ardal yng nghanolbarth Cymru sydd â phoblogaeth fechan, fregus iawn o felaod. Dyma benllanw ar ddwy flynedd o waith maes a gwaith ymchwil gofalus, ynghyd â chryn dipyn o waith ymgysylltu gyda chymunedau lleol. Dros amser gobeithiwn y bydd poblogaeth iach o felaod coed yn byw unwaith eto yng nghoedwigoedd canolbarth Cymru.
Mae’r prosiect wedi derbyn £200,000 gan bedwar partner: Coed Cadw, y ‘People’s Trust for Endangered Species’ (PTES), cwmni preifat o’r enw ‘POLECAT’ a Sŵ Caer sydd wedi addo £100,000 dros y chwe mlynedd. Mae’r cyfanswm hwn yn cynrychioli cyfran helaeth o’r £800,000 o arian cyfatebol sydd ei angen er mwyn ariannu’r prosiect.
Yn ôl Natalie Buttriss, Prif Weithredwr y VWT, ‘Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r pedwar partner newydd yma i’r prosiect. Rydym yn falch iawn o gael eu cefnogaeth ariannol, wrth reswm, ond maen nhw hefyd yn dod ag arbenigedd ac anoddau newydd i’r prosiect pwysig hwn.’
Yn y lle cyntaf bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynnal gweithgareddau i bontio gyda chymunedau a chreu cyfleoedd i ragor o bobl fod yn rhan o’r prosiect. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gludo belaod o’r Alban a’u gollwng yng Nghymru ac i gynnal gwaith ymchwil parhaus i fonitro symudiadau’r anifeiliaid.
Bydd y partneriaid yn dod ag arbenigedd helaeth i’r prosiect, yn cynnwys gwybodaeth gan Sŵ Caer am iechyd a lles anifeiliaid a chynnal ymchwil ar ymddygiad, gwybodaeth am reoli coetiroedd a thirweddau gan Coed Cadw, gwybodaeth am famaliaid gan PTES a chyngor ynglŷn â risgiau gan POLECAT.
Dros y flwyddyn nesaf bydd VWT yn dal i godi arian er mwyn dod o hyd i’r £600k ychwanegol sy’n angenrheidiol ar gyfer y prosiect ac mae’n croesawu’n fawr yr ymrwymiad ariannol gan y pedwar partner newydd hwn, gan obeithio y bydd yn sbarduno cynigion eraill i gefnogi’r gwaith pwysig a diddorol hwn.